CAW224 Cymdeithas yr Iaith

Ymgynghoriad ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Tystiolaeth i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyfer Craffu Cyfnod 1 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru).

Amdanoch Chi

Sefydliad: Cymdeithas yr Iaith

1.        Egwyddorion cyffredinol y Bil

1.1         A ydych yn cefnogi egwyddorion y Bil Cwricwlwm ac Asesu(Cymru)?

Yn rhannol

1.2         Amlinellwch eich rhesymau dros eich ateb i gwestiwn 1.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,500 o eiriau)

Rydym yn cefnogi’n rhannol egwyddorion cyffredinol y Bil, ond mae gennym rai pryderon difrifol ynghylch goblygiadau’r Bil fel ag y mae i addysg Gymraeg.

Mae Saesneg yn cael ei chynnwys fel un o’r elfennau mandadol o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad a’u rhestrir yn Adran 3(2). Tra rydym yn cefnogi cynnwys y pynciau eraill a restrir yma ('Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb', 'Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg' a ‘Chymraeg’), anghytunwn yn gryf o ran cynnwys Saesneg ar y rhestr hon, am resymau yn ymwneud â phroses ac ar sail egwyddor.

Proses

Nid yw’n glir i ni pam mae’r Llywodraeth yn bwriadu gwneud Saesneg yn orfodol drwy ei chynnwys yn Adran 3(2). Nid yw’r Llywodraeth wedi darparu unrhyw dystiolaeth addysgol yn ystod y broses ers cyhoeddi’r papur gwyn ar y Bil pan ymddangosodd y cynnig am y tro cyntaf i’w gyfiawnhau.

Nid oedd adroddiad Donaldson, y derbyniwyd ei argymhellion yn llawn gan y Llywodraeth, yn argymell gwneud Saesneg yn orfodol yn y cwricwlwm, dim ond y Gymraeg ac addysg grefyddol. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth (https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-04/ATISN%2013044.pdf),  dywedodd y Llywodraeth nad oedd dim un arbenigwr, unigolyn na chorff wedi argymell nac wedi gofyn am wneud Saesneg yn orfodol. Mae hynny'n wahanol iawn i weddill y cwricwlwm newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth arbenigwyr ac eraill.

Nid yw’r Llywodraeth chwaith wedi darparu tystiolaeth i gyfiawnhau’r honiad yn y Papur Gwyn bod gan y Llywodraeth ‘ymrwymiad cyfreithiol’ sy’n golygu bod yn rhaid gwneud dysgu Saesneg yn orfodaeth statudol. Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth (https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-04/ATISN%2013044.pdf),  cyfeiriodd y Llywodraeth at ‘yr agwedd at ddeddfu yng Nghymru’ ym Mesur y Gymraeg a Deddf Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad. Nid yw’r cyntaf o’r rhain yn gosod unrhyw ddisgwyliadau o ran ystyriaeth o Saesneg gan y Llywodraeth na chyrff eraill, ac nid yw’r ail yn berthnasol i weithredoedd y Llywodraeth fel gweinyddiaeth – nid yw’r naill na’r llall yn berthnasol i gynnwys Bil y Cwricwlwm ac nid yw ‘agwedd at ddeddfu’ yr un peth ag ymrwymiad cyfreithiol i ddeddfu dros Saesneg.

Nid yw’r Llywodraeth chwaith wedi cynnig cyfiawnhad dros yr honiad fod ganddi ‘ymrwymiad polisi’ at ddwyieithrwydd sy’n golygu bod rhaid gwneud Saesneg yn elfen fandadol. Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud bod y Bil ‘yn trin Saesneg a Chymraeg yn union yr un fath' (http://www.senedd.tv/Meeting/Clip/264c21a2-890d-4c4a-a7ca-fc078be04f03?inPoint=05:07:45&outPoint=05:09:52)  ac mae’r Llywodraeth wedi dweud ei bod am wneud Saesneg yn orfodol ‘nid yn unig i adlewyrch (sic) natur ddwyieithol Cymru ond hefyd i roi neges gryf fod y ddwy iaith yn gyfartal yng Nghymru’ (https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-04/ATISN%2013044.pdf).  Mae hynny'n dangos camddealltwriaeth sylfaenol o wahanol sefyllfaoedd y ddwy iaith — dydyn nhw ddim ar sail gyfartal ac ni fyddai unrhyw ddeddfwriaeth synhwyrol yn eu trin fel petaen nhw. Yn wir, mae’r cynlluniau hyn yn mynd yn groes i ymrwymiadau polisi’r Llywodraeth ym maes addysg a’r Gymraeg, fel byddwn yn esbonio.

Canlyniad ydy dwyieithrwydd, nid cyfrwng, ac os mai dwyieithrwydd yw’r nod, yna mae'n glir mai'r Gymraeg, ac addysg Gymraeg yn benodol, sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg. Mae degawdau o ymchwil a pholisi o ran ieithoedd lleiafrifol ar draws y byd yn dangos hyn. Nid cydraddoldeb ydy trin pethau gwahanol yr un fath, ond ymateb i’w cyd-destunau ac anghenion gwahanol. Os bydd polisi cyhoeddus yn trin dwy iaith sydd ddim ar sail gyfartal yn union yr un fath, yna nid dwyieithrwydd neu gyfartaledd fydd y canlyniad, ond parhau a dwysáu goruchafiaeth Saesneg, iaith fwyaf grymus y byd.

Dylai ymyraethau polisi cyhoeddus fod yn ymateb i broblemau clir sydd angen eu hunioni. Yn achos Saesneg, nid oes tystiolaeth bod perygl o gwbl na fydd yn cael ei haddysgu, ac felly nid oes angen cynnwys gorfodaeth ohoni yn y Bil. Mae hyn yn wahanol i’r elfennau mandadol eraill a restrwyd yn 3(2), lle mae tystiolaeth glir o brofiad addysgwyr, arbenigwyr a disgyblion bod angen statws statudol a chyfarwyddyd clir er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dysgu ymhob lleoliad addysg. Rydym yn cyd-fynd â chanfyddiad y Panel Arbenigol Rhyw a Chydberthnasau y bydd darpariaeth o’r pwnc pwysig hwn yn bitw, yn anghyson neu ddim yn bodoli o gwbl heb orfodaeth statudol a chyfarwyddyd cenedlaethol – nid oes unrhyw amheuaeth y bydd yr un peth yn wir am Saesneg.

Mewn cyfarfod gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, dywedodd y Gweinidog wrth y Gymdeithas mai’r rheswm dros gynnwys Saesneg yn y Bil yw i osgoi “ffỳs mawr gan yr 80% o’r boblogaeth sydd ddim yn siarad Cymraeg.” Ni roddwyd unrhyw reswm arall dros y penderfyniad i wneud Saesneg yn orfodol, ac mae’n syfrdanol mai hyn yw’r cyfiawnhad. Mewn cyferbyniad, fe roddodd y Llywodraeth gyfiawnhad tystiolaethol a chyfreithiol i’r cynigion eraill sy’n ymddangos yn y Bil. Gwelwn felly nad yw’r Llywodraeth wedi dilyn y broses arferol a disgwyliedig wrth gyfwyno’r cynlluniau hyn, a gellir eu gwrthwynebu ar y sail yma, yn enwedig wrth ystyried sgôp y cynlluniau hyn.

Gwrthwynebwn y cynlluniau hyn hefyd ar sail egwyddorol.

Cytunwn gyda chasgliad Mudiad Meithrin yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor bod y cynnig i wneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth, gan roi’r hawl i benaethiaid a darparwyr ‘ddewis a ydyn nhw’n cyflwyno Saesneg i ddysgwyr hyd at 7 oed, ac i ba raddau y maen nhw’n gwneud hynny’ yn sefydlu’r egwyddor ‘mai Saesneg yw iaith normadol cyfundrefn gofal ac addysg Cymru’ ac ‘mai gwyro oddi wrth y drefn gywir yw addysgu a gofalu trwy gyfrwng y Gymraeg (niche)’. Mae hyn yn arbennig o wir gan fod y geiriad yn cyfeirio at ‘raddau’ o gyflwyno Saesneg, gan awgrymu mai cyflwyno Saesneg yw’r norm.

Bydd gwneud Saesneg yn orfodol ar wyneb y ddeddfwriaeth yn cael effaith negyddol ar ethos ac arferion ysgolion a chyd-destunau addysg eraill lle mae eisoes yn frwydr i sicrhau mai'r Gymraeg yw'r norm fel cyfrwng dysgu a chyfathrebu'n ehangach. O ystyried y dymuniad i ysgolion symud i fyny’r continwwm ieithyddol, nid eithriad ar gyfer rhai ysgolion a darparwyr blynyddoedd cynnar yw’r ateb – yr hyn sydd ei angen yw tynnu Saesneg yn llwyr o’r ddeddfwriaeth.

Wrth baratoi cwricwlwm fydd yn addas i anghenion Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain ac yn rhoi cyfle teg i bob un o blant Cymru, rhaid ystyried y gwahanol gyd-destunau mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn bodoli ynddynt. Mae holl blant Cymru’n rhwym o ddod yn rhugl yn y Saesneg yng Nghymru’r unfed ganrif ar hugain, ond mae hynny’n bell iawn o fod yn wir ar gyfer y Gymraeg, fel iaith sydd wedi’i lleiafrifoli. Yn y cyd-destun ieithyddol presennol, mae plant Cymru’n mynd i gaffael Saesneg oherwydd ei bod yn iaith mor rymus ac yn hollbresennol ym mywydau pawb yn y wlad. Rydym yn rhannu nod y Llywodraeth o sicrhau bod holl blant Cymru yn rhugl yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, yn y cyd-destun ieithyddol sydd ohoni, a’r cyd-destun rhagweladwy am y degawdau i ddod, mae'n glir mai'r Gymraeg, ac addysg Gymraeg yn benodol, sydd angen cefnogaeth ddeddfwriaethol, nid Saesneg.

Mae Saesneg yn rhwym o gael ei dysgu yn ein hysgolion, ac mae sicrwydd am hynny yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, heb fod angen cynnig deddfwriaethol penodol am Saesneg. Byddai cynnwys Saesneg fel elfen orfodol yn Adran 3(2) yn anfon neges gymysglyd i addysgwyr ynghylch bwriad ac ysbryd y Bil, yn benodol o ran y Gymraeg.

Mi wnaeth dros 400 o addysgwyr lofnodi llythyr at y Gweinidog Addysg yn gwrthwynebu’r cynlluniau hyn ac amlinellu’n glir bryderon dilys ar sail profiad fel gweithwyr rheng flaen neu arbenigwyr (gweler ein tystiolaeth atodol a https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/Llythyr%20addysgwyr.pdf)   

Gweledigaeth Cymdeithas yr Iaith yw gwlad lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng addysg. Yn dilyn cyflwyno Cwricwlwm newydd i Gymru sydd wirioneddol yn dileu Cymraeg ail-iaith ac yn sefydlu un llwybr dysgu Cymraeg, rydym yn galw ar y Llywodraeth nesaf i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg newydd, fydd yn sefydlu’r egwyddor taw Cymraeg yw cyfrwng addysg y wlad a gosod targedau statudol ar lefel leol a chenedlaethol i symud tuag at addysg cyfrwng Cymraeg cyflawn i bawb, yn debyg i’r model yng Nghatalwnia. Os ydym o ddifrif am gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, credwn fod angen symud at system addysg o’r fath. Byddai cynnwys y Saesneg fel elfen orfodol o’r cwricwlwm ar wyneb y ddeddfwriaeth hon yn tanseilio’r nod hwnnw.

 

1.3         A ydych yn credu bod angen deddfwriaeth i gyflawni’r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Cytunwn fod angen deddfu i sefydlu cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, nid oes angen deddfu i sicrhau bod disgyblion yn dod yn rhugl yn Saesneg, gan ei bod yn iaith mor hollbresennol, a chan ei bod eisoes yn cael ei dysgu mewn ysgolion a bod sicrwydd o hynny’n parhau yn y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu. Dylid tynnu Saesneg o’r rhestr o bynciau gorfodol yn adran 3(2).

Mae deddfwriaeth dda yn ymateb i’r byd fel ag y mae, ac yn canolbwyntio unrhyw orfodaeth lle mae ei hangen yn unig. Fel mater o egwyddor, ni ddylid deddfu dros bethau nad oes angen deddfu drostynt. Yn achos Saesneg, nid oes tystiolaeth bod perygl o gwbl na fydd yn cael ei haddysgu heb orfodaeth ddeddfwriaethol, ac felly nid oes angen cynnwys gorfodaeth ohoni yn y Bil. Mae hyn yn wahanol i’r elfennau eraill a restrwyd yn 3(2), lle mae tystiolaeth glir o brofiad addysgwyr, arbenigwyr a disgyblion bod angen statws statudol a chyfarwyddyd clir er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dysgu ymhob lleoliad addysg. Nid yw’r un peth yn wir am Saesneg.

Mae cynnwys Saesneg yn y rhestr yn golygu bod angen llunio canllawiau neu eithriad statudol er mwyn caniatáu i ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar weithredu dulliau trochi, sydd mor allweddol i sicrhau bod plant o bob cefndir yn dod yn rhugl yn Gymraeg. Mae’r trefniant mae’r Llywodraeth yn ei gynnig ar hyn o bryd – sef rhoi’r grym i benaethiaid, cyrff llywodraethu neu ddarparwyr meithrin unigol ddatgymhwyso Saesneg cyn 7 mlwydd oed – yn rhoi grym anghymesur yn eu dwylo nhw ac yn golygu y byddai modd i gorff llywodraethu neu bennaeth newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy. Bydd felly’n rhwystro unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i dyfu addysg Gymraeg a gweithredu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Mae hyn felly’n cymhlethu’r ddeddfwriaeth a’i gweithrediad, ac mae iddo oblygiadau niweidiol i addysg Gymraeg. Mae hefyd yn tanseilio amcanion polisi’r Llywdraeth ynghylch dysgu’r Gymraeg ar un continwwm, creu mwy o siaradwyr Cymraeg hyderus drwy’r system addysg a chyrraedd miliwn o siaradwyr.

Mae deddfu dros elfennau gorfodol di-angen fel hyn hefyd yn mynd yn erbyn llythyren ac ysbryd Cwricwlwm i Gymru, sy’n anelu i roi mwy o ryddid i athrawon ac ysgolion ddatblygu eu cwricwla eu hunain i ymateb i anghenion eu disgyblion. Noder mai dim ond y Gymraeg ac addysg grefyddol y gwnaeth yr Athro Donaldson argymell y dylent fod yn elfennau mandadol yn ei adroddiad (argymhellion y gwnaeth y Llywodraeth eu derbyn yn llawn), ac nid oes yr un rhanddeiliad, addysgwr, arbenigwr na chorff wedi gofyn am gynnwys Saesneg fel elfen fandadol ar wyneb y ddeddf.

Egwyddor Cwricwlwm i Gymru yw mai dim ond pynciau sydd am resymau hanesyddol a chymdeithasol angen statws statudol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dysgu’n gyson ac i safon ymhob ysgol ddylai fod yn elfennau mandadol. Mae rhesymeg da dros gynnwys yr elfennau eraill yn y rhestr yn 3(2) ond nid yw’r un peth yn wir – o bell ffordd – am Saesneg, felly mae ei chynnwys yn mynd yn erbyn bwriad y ddeddfwriaeth a chyfeiriad polisi ehangach y Llywodraeth.

 

2.        Gweithredu’r Bil

2.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 3.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae’r Bil yn cynnig creu tri chod – Cod yr Hyn sy’n Bwysig, Cod Cynnydd, a’r Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i ddelio â materion sydd angen sylw penodol mewn mwy o fanylder. Er hyn, nid oes bwriad darparu cod o ran dysgu’r Gymraeg fyddai’n hwyluso gwireddu’r uchelgais a nodir yn y Memorandwm Esboniadol (3.140), a dogfennau polisi eraill Llywodraeth Cymru: “mae gweddnewid y ffordd rydym yn addysgu’r Gymraeg i bob dysgwr, er mwyn i o leiaf 70 y cant o’r dysgwyr hynny allu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg pan fyddant yn gadael yr ysgol, yn un o’r prif newidiadau gweddnewidiol y bydd eu hangen yn y sector addysg statudol er mwyn gwireddu’r weledigaeth”. Cytunwn gydag UCAC fod angen cod o ran dysgu’r Gymraeg er mwyn gwireddu’r uchelgais a sicrhau ein bod yn gweithredu un continwwm go iawn ar gyfer dysgu’r Gymraeg.

Dylai’r cod hwn ganolbwyntio ar wireddu addewid y Llywodraeth i sefydlu un llwybr dysgu go iawn i’r Gymraeg a dileu Cymraeg ail iaith; gosod fframwaith cenedlaethol clir ac uchelgeisiol i ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog o ran datblygu sgiliau Cymraeg disgyblion a chynyddu canran y cwricwlwm a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg; a gwneud yn glir mai’r nod dros amser wrth weithredu Cwricwlwm i Gymru yw y bydd pob disgybl yn gadael yr ysgol yn gyfathrebwr hyderus yn Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi llunio cynigion ar sut mae gweithredu un continwwm go iawn o ddysgu’r Gymraeg, sydd ar gael yn https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/191031%20Un%20continwwm%20yn%20y%20cwricwlwm(1).pdf

 

2.2         A ydych yn credu bod y Bil yn ystyried y rhwystrau posibl hyn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Nac ydy. Gweler ein sylwadau uchod.

3.        Canlyniadau anfwriadol

3.1         A ydych yn credu bod unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil? Os na, ewch i gwestiwn 4.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Mae Adran 26 a 27 o’r Bil yn rhoi’r grym i benaethiaid neu gyrff llywodraethu ysgolion a darparwyr meithrin wneud penderfyniad fesul un i ‘ddatgymhwyso’ Saesneg fel elfen orfodol cyn 7 oed, sy’n dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol o addysg drochi Gymraeg ac yn peryglu ei pharhad ar draws y wlad. Mae’n golygu y byddai modd newid cyfrwng iaith ysgol ar fympwy, a bydd yn rhwystro unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth i dyfu addysg Gymraeg a gweithredu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Mae strategaeth ‘Cymraeg 2050’ y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd addysg drochi o ran cyflawni ei nod o filiwn o siaradwyr: “Addysg drochi cyfrwng Cymraeg yw ein prif ddull ar gyfer sicrhau bod plant yn gallu datblygu eu sgiliau Cymraeg, ac ar gyfer creu siaradwyr newydd... Mae hyn yn dangos pwysigrwydd ymrwymiad y system addysg i greu miliwn o siaradwyr. Mae hefyd yn amlygu pwysigrwydd sector y blynyddoedd cynnar fel pwynt mynediad cynnar i addysg drochi, ac fel ffordd o gynyddu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg.” (tud. 21)

O ystyried hyn, byddai’n gwneud synnwyr ehangu’r arfer o addysg drochi Gymraeg ar draws Cymru, nid rhoi’r grym yn nwylo penaethiaid a llywodraethwyr ysgol i’w thanseilio ar fympwy. Os ydym am gyrraedd y miliwn, mae angen cynnydd mawr mewn addysg Gymraeg, gan gymreigio ysgolion ar draws y wlad. Bydd y Bil fel ag y mae yn rhwystro hynny rhag digwydd.

Byddai rhoi’r grym hwn i benaethiaid neu lywodraethwyr hefyd yn peri risg o achosi gwrthdaro ar lefel gymunedol dros gyfrwng iaith ysgolion lleol, yn enwedig mewn siroedd lle mae pob ysgol gynradd yn un cyfrwng Cymraeg. Gallai felly greu rhwygiadau cymdeithasol a thanseilio ymdrechion siroedd i sicrhau rhuglder pob plentyn yn y Gymraeg.

Byddai’r Bil yn creu sefyllfa lle mai’r opsiwn diofyn fyddai dysgu Saesneg o dan 7 oed, ac fe fyddai angen i ysgol sydd am “optio mewn” i’r cyfnod trochi gyfiawnhau gwneud hynny. Fel eglura tystiolaeth UCAC: “Nid yw’n dderbyniol bod y naill opsiwn yn ddiofyn a’r llall yn gofyn am gamau ychwanegol pellach i amrywio neu i optio allan o’r default.” Effaith hyn fyddai rhoi’r argraff i benaethiaid a llwydoraethwyr ysgol mai dysgu Saesneg yn y blynyddoedd cynnar yw’r norm a’r opsiwn y mae’r Llywodraeth yn ei ffafrio, tra byddai addysg drochi Gymraeg yn cael ei hystyried yn opsiwn ‘abnormal’ ac anffafriol. Byddai’n enghraifft glir o drin y Gymraeg yn llai ffafriol.

Yn ogystal, nid oes unrhyw wybodaeth yn y Bil ei hun nac yn y memorandwm esboniadol ynghylch trochi plant hŷn. Mae perygl y gallai’r Bil felly arwain at sefyllfa lle na allai plant dros 7 oed sy’n ddi-Gymraeg fynychu addysg drochi Gymraeg pan maent yn symud i ysgol Gymraeg. Byddai’r Bil felly’n peryglu canolfannau trochi ar draws y wlad. Mae’r canolfannau hyn yn chwarae rôl allweddol yn ymestyn yr iaith i gynnwys plant o gefndiroedd di-Gymraeg sy’n symud i ardal lle siaredir yr iaith yn fwy eang, ac yn helpu plant ymhob man i drosglwyddo i addysg Gymraeg. Mae angen ehangu’r canolfannau trochi hyn ar draws Cymru a byddai’r Bil fel y mae yn rhwystro hyn rhag digwydd.

Pe na bai Saesneg wedi’i chynnwys yn adran 3(2), ni fyddai’r canlyniadau anfwriadol hyn yn broblem, ac felly’r ateb mwyaf syml ac effeithiol yw tynnu Saesneg o wyneb y Bil.

 

4.        Goblygiadau ariannol

4.1         A oes gennych farn am oblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 5.1

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau)

Nac oes.

5.        Pwerau I wneud is-ddeddfwriaeth

5.1         A oes gennych unrhyw sylwadau am addasrwydd y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’i nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol)? Os nad oes, ewch i gwestiwn 6.1.

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 500 o eiriau.)

Mae’r pwerau yn adrannau 26(1) a 27(1) yn broblematig, gan eu bod yn rhoi’r grym i benaethiaid a chyrff llywodraethu (26) a darparwyr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir (27) wneud penderfyniad i ddatgymhwyso’r gofyniad i addysgu elfen orfodol Saesneg. Yn ymarferol, gan fod y cyfnod trochi mor allweddol i addysg Gymraeg, byddai hyn yn golygu bod modd i benaethiaid neu gyrff llywodraethu unigol benderfynu ar gyfrwng iaith ysgol a’i newid ar fympwy. Bydd hyn yn tanseilio unrhyw gynllunio strategol gan awdurdodau lleol a’r Llywodraeth ynghylch addysg Gymraeg i gyd-fynd â’r cyfeiriad polisi o un llwybr dysgu Cymraeg a’r nod o filiwn o siaradwyr. Gallai hefyd arwain at wrthdaro ar lefel ysgolion unigol a chymunedau ynghylch cyfrwng iaith addysg leol a thynnu oddi ar gynllunio ar lefel sirol i gymreigio ysgolion.

Mae’r trefniadau hyn yn ddiangen oherwydd nad oes angen cynnwys Saesneg fel elfen orfodol ar wyneb y Bil.

 

6.        Ystyriaethau eraill

6.1         A oes gennych unrhyw bwyntiau eraill yr hoffech eu gwneud am y Bil hwn?

(byddem yn ddiolchgar pe gallech gadw eich ateb o dan oddeutu 1,000 o eiriau)

Bydd y Bil yn ei ffurf bresennol yn tanseilio addysg Gymraeg ar draws y wlad. Mae’n mynd yn groes i ymrwymiad y Llywodraeth o weithredu un continwwm dysgu’r Gymraeg, fframwaith polisi Cwricwlwm i Gymru a’r nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr. Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn ymrwymo’r Llywodraeth i sicrhau y bydd 70% o blant yn gadael yr ysgol yn rhugl eu Cymraeg erbyn 2050 – ni fydd hyn yn bosib os caiff y Bil ei weithredu fel y mae.

Yn hytrach na bwrw ymlaen gyda chyflwyno’r Bil yn ei ffurf bresennol, dylai’r Llywodraeth ddileu Saesneg o wyneb y Bil a chanolbwyntio ar greu un continwwm go iawn o ddysgu’r Gymraeg, yn lle’r cynigion presennol yn y cwricwlwm newydd sy’n cadw dau lwybr dysgu, ac sy’n cynrychioli parhad y llwybr ‘ail iaith’ eilradd. Rhaid gwireddu addewid y Llywodraeth i ddileu Cymraeg ail iaith a chyflwyno un llwybr dysgu go iawn, fydd yn adlewyrchu’r consensws ymysg mudiadau, addysgwyr ac arbenigwyr iaith ers cyhoeddi adroddiad Sioned Davies ar Gymraeg ail iaith yn 2013.

Gofynnwn i’r Pwyllgor ystyried y dystiolaeth uchod, ynghyd ag ymatebion mudiadau, addysgwyr ac arbenigwyr eraill – gan gynnwys UCAC, Mudiad Meithrin a thros 400 o addysgwyr – sydd wedi amlinellu’n glir y problemau gyda chynigion presennol y Bil, ac wedi argymell yn glir ac yn ddiamod bod y Llywodraeth yn gollwng Saesneg o’r elfennau mandadol, ac yn hytrach gweithredu un llwybr o ddysgu’r Gymraeg i bob plentyn ac ysgol yn y wlad.

Mae Cwricwlwm i Gymru yn gyfle hanesyddol i sefydlu cwricwlwm fydd am y tro cyntaf yn ateb anghenion Cymru a chreu system addysg fydd yn sicrhau nad oes yr un plentyn yn colli allan ar yr etifeddiaeth sy’n hawl iddynt – ein hiaith genedlaethol unigryw ni. Rydym yn erfyn ar y Llywodraeth a holl Aelodau’r Senedd i beidio â cholli’r cyfle hwn.